Cariad Cyntaf lyrics
Songs
2024-12-26 04:21:52
Cariad Cyntaf lyrics
Mae prydferthwch ail i Eden
Yn dy fynwes gynnes feinwen,
Fwyn gariadus, liwus lawen,
Seren syw, clyw di’r claf.
Addo’th gariad i mi heno:
Gwnawn amodau cyn ymado
I ymrwymo doed a ddelo;
Rho dy gred, a d’wed y doi.
Liwus lonad, serch fy mynwes,
Wiwdeg orau ’rioed a geres
Mi’th gymeraf yn gymhares;
Rho dy gred, a dwed y doi.
Yn dy lygaid caf wirionedd
Yn serennu gras a rhinwedd;
Mae dy weld i mi’n orfoledd:
Seren syw, clyw di’r claf.
- Artist:Julie Murphy
- Album:Ffawd