Dernière danse [Welsh translation]

Songs   2024-12-16 17:12:52

Dernière danse [Welsh translation]

O! fy nioddefaint tyner,

Pam wyt ti’n ailgydio ynof fi mor bendant?

Dim ond creadures ddibwys dw i,

Hebddo fe dw i’n dod braidd yn baranoiaidd,

Dw i’n crywdro yn unig ar y tanddaearol.

Un ddawns ola,

Er mwyn anghofio fy nolur anferth i.

Rwy’n trial ffoi, am i bopeth ail-ddechrau,

O! fy nioddefaint tyner.

Dw i’n siglo’r wybren, nos a dydd.

Dw i’n dawnsio gyda’r gwynt a’r glaw.

Tipyn o gariad, mymryn o fêl

A dw i’n dawnsio, dawnsio, dawnsio, dawnsio, dawnsio.

Ac yn y twrw, dw i’n rhedeg a chael ofn.

Fy nhro i yw hi?

Dyma’r boen yn dod…

Ym Mharis gyfan dw i’n ymollwng

A dw i’n hedfan, hedfan, hedfan, hedfan bant.

Am obaith…

Ar y ffordd ’ma yn dy absenoldeb di.

Waeth i mi ymdrech, hebddot ti dyw fy mywyd i ond eilunfa sy’n disgleirio, yn wag o ystyr.

Dw i’n siglo’r wybren, nos a dydd.

Dw i’n dawnsio gyda’r gwynt, a’r glaw.

Tipyn o gariad, mymryn o fêl

A dw i’n dawnsio, dawnsio, dawnsio, dawnsio, dawnsio.

Ac yn y twrw, dw i’n rhedeg a chael ofn.

Fy nhro i yw hi?

Dyma’r boen yn dod…

Ym Mharis gyfan dw i’n ymollwng

A dw i’n hedfan, hedfan, hedfan, hedfan bant.

Yn y dioddefaint tyner hwn,

Dw i wedi talu â fe am fy meiau i gyd,

Gwranda ar sut enfawr yw fy nghalon.

Plentyn y byd dw i.

Dw i’n siglo’r wybren, nos a dydd.

Dw i’n dawnsio gyda’r gwynt, a’r glaw.

Tipyn o gariad, mymryn o fêl

A dw i’n dawnsio, dawnsio, dawnsio, dawnsio, dawnsio.

Ac yn y twrw, dw i’n rhedeg a chael ofn.

Fy nhro i yw hi?

Dyma’r boen yn dod…

Ym Mharis gyfan dw i’n ymollwng

A dw i’n hedfan, hedfan, hedfan, hedfan bant.

  • Artist:Indila
  • Album:Mini World (2014)
Indila more
  • country:France
  • Languages:French, English
  • Genre:Pop, R&B/Soul
  • Official site:
  • Wiki:https://fr.wikipedia.org/wiki/Indila
Indila Lyrics more
Indila Featuring Lyrics more
Indila Also Performed Pyrics more
Excellent Songs recommendation
Popular Songs
Artists
Songs