Dyma Gariad fel y Moroedd [Here Is Love]

  2024-06-27 13:42:21

Dyma Gariad fel y Moroedd [Here Is Love]

Dyma gariad fel y moroedd,

Tosturiaethau fel y lli:

Twysog Bywyd pur yn marw -

Marw i brynu'n bywyd ni.

Pwy all beidio â chofio amdano?

Pwy all beidio â thraethu'i glod?

Dyma gariad nad â'n angof

Tra fo nefoedd wen yn bod.

Ar Galfaria yr ymrwygodd

Holl ffynhonnau'r dyfnder mawr;

Torrodd holl argaeau'r nefoedd

Oedd yn gyfain hyd yn awr:

Gras â chariad megis dilyw

Yn ymdywallt ymâ 'nghyd,

A chyfiawnder pur â heddwch

Yn cusanu euog fyd.

William Rees more
  • country:United Kingdom
  • Languages:
  • Genre:Religious
  • Official site:
  • Wiki:
William Rees Lyrics more
Excellent recommendation
Popular