Dyma Gariad fel y Moroedd [Here Is Love] [Spanish translation]
Songs
2024-11-08 05:00:58
Dyma Gariad fel y Moroedd [Here Is Love] [Spanish translation]
Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli:
Twysog Bywyd pur yn marw -
Marw i brynu'n bywyd ni.
Pwy all beidio â chofio amdano?
Pwy all beidio â thraethu'i glod?
Dyma gariad nad â'n angof
Tra fo nefoedd wen yn bod.
Ar Galfaria yr ymrwygodd
Holl ffynhonnau'r dyfnder mawr;
Torrodd holl argaeau'r nefoedd
Oedd yn gyfain hyd yn awr:
Gras â chariad megis dilyw
Yn ymdywallt ymâ 'nghyd,
A chyfiawnder pur â heddwch
Yn cusanu euog fyd.
- Artist:William Rees