Le déserteur [Welsh translation]
Le déserteur [Welsh translation]
Arweinwyr mawr ein gwlad
Y rhai a elwir bennaf
I chi yr ysgrifennaf
A’m calon i yn dwn
Wi newydd glywed sôn
Fod eisiau dynion newydd
I fynd i arfer cleddyf
I ymladd gyda’r gwn
Rhaid im anufuddhau
Nid am fy mod yn llyfrddyn
Ond caru rwyf fy nghyd-ddyn
Ac yn gwrthfarnu ei ladd
Wrth wneud y llythyr hwn
Nid ydwyf am eich poeni
Ond rhaid oedd ysgrifennu
Cans gwarth yw’r rhyfel im
Ers diwrnod cyntaf oes
Fe welais ladd diennig
Llofruddiaeth llawer teulu
Er gwaethaf gwaed y Groes
Bu farw mil o ŵyr
Tra ’steddech chi’n gysurus
Yn eich palasau moethus
Dan drefnu tynged byd
Bu carchorion prudd
Na achosant ei bywydau
Collasant eu heneidiau
A’u nerth a’u grym a’u ffydd
Yfory, af i ffwrdd
Ni fedraf aros bellach
A i i chwlio gwlad sy’n gallach
Ymhell o sŵn y gad
Fe grwydraf dros y byd
Mewn angen ac mewn tlodi
Heb boeni am yfory
A dwedaf wrth bob un
Mwynhewch pleserau’r byd
Ond arbedwch ofn i’w gystudd
Cans brodyr i ni’n gilydd
Aelodau’r bobl ryw
Os rhaid yw arllwys gwaed
Cewch arllwys waed eich gilydd
Cans nid wyf fi yw’r llofrudd
Na’r waedwyr mawr ein gwlad
Daw plismyn ar fy ôl
Ond ni fydd raid ynt poeni
Ni fydd ddim arfau gen i
Mi fydd yn hawdd fy lladd
Mi fydd yn hawdd fy lladd
- Artist:Boris Vian