Myfanwy [English translation]

  2024-06-30 11:34:41

Myfanwy [English translation]

Paham mae dicter O Myfanwy,

Yn llenwi’th lygaid duon di.

A’th ruddiau tirion O Myfanwy,

Heb wrido wrth fy ngweled i?

Pa le mae’r wên oedd ar dy wefus,

Fu’n cynnau’n ‘nghariad ffyddlon ffôl?

Pa le mae sain dy eiriau melys,

Fu’n denu’n nghalon ar dy ôl?

Pa beth a wneuthum O Myfanwy,

I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd,

Ai chwarae oeddit O Myfanwy,

 thanau euriadd serch dy fardd?

Wyt eiddo im, dwyr gywir amod,

Ai gormod cadw’th air i mi?

Ni cheisiaf fyth, mo’th law Myfanwy,

Heb gael dy galon gyda hi.

Myfanwy, boed yr holl o’th fywyd,

Dan heulwen ddisglair canol dydd,

A boed i rosyn gwirdog iechyd,

I ddawnsio ganmlwydd ar dy ruth.

Anghofia’r oll o’th addewidion,

A wneist i rywun, ‘ngeneth ddel,

A dyro’th law, Myfanwy dirion,

I ddim ond dweud y gair “Ffarwél.”

Karl Jenkins more
  • country:United Kingdom
  • Languages:Latin, English, Constructed Language, Arabic, Welsh
  • Genre:
  • Official site:http://karljenkins.com/
  • Wiki:http://en.wikipedia.org/wiki/Karl_Jenkins
Karl Jenkins Lyrics more
Excellent recommendation
Popular