One Day at a Time [Welsh translation]
Songs
2024-12-30 14:09:57
One Day at a Time [Welsh translation]
Un dydd ar y tro fy Iesu
Yma fy hunan, nid wyf ond bychan,
Dysg i mi weld yr hyn ydwyf i a’r hyn allwn fod.
Dangos fy nghyfle, beth bynnag y bo.
I weithio dros Dduw, ond dysg i mi fyw un dydd ar y tro.
Mae ddoe wedi mynd fy Iesu,
Yfory gall fod yn rhy hwyr,
Bydd di wrth y llyw i’m harwain i fyw Fy nyddiau yn llwyr;
A dysg i mi wneud fy ngorau i bawb, pwy bynnag y bo,
O Iesu, fab Duw, dysg i mi fyw,
Un dydd ar y tro.
Buost dy hunan ar y ddaear fel fi
O Iesu fab Duw dysg i mi fyw, yn fwy tebyg i Ti;
Cerdded fy llwybr er garwed y bom
O cymer fy llaw, beth bynnag a ddaw,
Un dydd ar y tro.
- Artist:Lena Martell