Red, Red Rose [Welsh translation]
Songs
2024-12-25 08:43:10
Red, Red Rose [Welsh translation]
O mae fy Nghariad innau fel rhosyn coch
Sydd newydd egino’m Mehefin;
O mae fy Nghariad innau fel y melodi
Y chwaraeir yn soniarus mewn tiwn.
Mor deg wyt ti, fy ngeneth fach,
Mor ddwfn mewn cariad ydw i:
A byddaf yn dy garu o hyd, f’anwylyd
Tan aiff y moroedd i gyd yn sych:
Tan aiff y moroedd i gyd yn sych, f’anwylyd,
A thodda’r creigiau gyda’r haul:
Byddaf yn dy garu di o hyd, f’anwylyd,
Tra rhed tywodydd y bywyd.
A ffarwél i ti, fy unig Gariad
A ffarwél i ti am ysbaid!
A dof eto atat ti, fy Nghariad,
Pe bai ddeng mil o filltiroedd!
- Artist:Robert Burns