Suomi on sun [Welsh translation]

Songs   2025-01-13 03:24:33

Suomi on sun [Welsh translation]

Mae llygaid yr hen ddyn yn syllu,

Ar y tirlun garw coediog. Mae’r glaw yn taro ymyl y cae,

Gan greu tyfiad newydd. Â chamau byr mae’r hen oroeswr hwn

Yn troedio adre. Try hwyr ein bywyd yn fuan mewn tywyllwch.

Hiraethu’r wyf eisoes (ond)

Heddiw eiddot ti yw’r Ffindir.

Mae afon Kyrönjoki’n ailadrodd yr un gân wrthyt ti.

Ni all neb ddwyn dy gofion di.

Heddiw eiddot ti yw’r Ffindir, ŵ, ŵ, am byth eiddot ti.

Does ond dau o’r cwmni ar ôl.

Diflanna ffrindiau oddi wrth dy ochr di.

Â’r llinellau tenau yn deneuach fyth.

Ond gwyddost ti’r gwir.

Heddiw eiddot ti yw’r Ffindir

Mae afon Kyrönjoki’n ailadrodd yr un gân wrthyt ti.

Ni all neb ddwyn dy gofion di.

Heddiw eiddot ti yw’r Ffindir, ŵ, ŵ, am byth eiddot ti.

Mae clychau’r llan yn canu, rwy finnau’n paentio’r wybren.

Rwy’n ei theimlo hi’n aros, ar i’r etifeddiaeth

Garïo’r feteran ola, ei arwain

O dan y tir

Heddiw eiddot ti yw’r Ffindir

Mae afon Kyrönjoki’n ailadrodd yr un gân wrthyt ti.

Ni all neb ddwyn dy gofion di.

Heddiw eiddot ti yw’r Ffindir, ŵ, ŵ, am byth eiddot ti.

Klamydia more
  • country:Finland
  • Languages:Finnish
  • Genre:Punk, Rock
  • Official site:http://www.klamydia.fi/
  • Wiki:https://en.wikipedia.org/wiki/Klamydia
Klamydia Lyrics more
Klamydia Also Performed Pyrics more
Excellent Songs recommendation
Popular Songs
Artists
Songs