Total Eclipse of the Heart [Welsh translation]

Songs   2024-07-07 11:46:47

Total Eclipse of the Heart [Welsh translation]

(Tro yn ôl)!

Bob hyn a hyn,

Rwy’n mynd ychydig yn unig,

A tithau heb byth alw draw.

(Tro yn ôl)!

Bob hyn a hyn,

Rwy’n blino ar wrando

Ar sŵn fy nagrau’n llifo i lawr.

(Tro yn ôl)!

Bob hyn a hyn,

Rwy’n mynd ychydig yn nerfus

Rhag bod dyddiau gorau ’mywyd ar ben.

(Tro yn ôl)!

Bob hyn a hyn,

Rwy'n fy nychryn ychydig

Gan olwg ddwys dy lygaid lliw’r nen…

(Tro, lygaid llachar)!

Bob hyn a hyn,

Rwy’n cwympo ar chwal!

(Tro, lygaid llachar)!

Bob hyn a hyn,

Rwy’n cwympo ar chwal!

(Tro yn ôl)!

Bob hyn a hyn,

Rwy’n mynd ychydig yn awchus,

A dychmygu pethau gwyllt.

(Tro yn ôl)!

Bob hyn a hyn,

Rwy’n mynd yn blentyn digymorth,

Yn dy freichiau di yn llechu o’r mellt.

(Tro yn ôl)!

Bob hyn a hyn,

Rwy’n mynd yn ddig, nes bydd angen

I mi floeddio mas yn erbyn y drefn.

(Tro yn ôl)!

Bob hyn a hyn,

Rwy'n fy nychryn ychydig

Gan olwg ddwys dy lygaid lliw’r nen…

(Tro, lygaid llachar)!

Bob hyn a hyn,

Rwy’n cwympo ar chwal!

(Tro, lygaid llachar)!

Bob hyn a hyn,

Rwy’n cwympo ar chwal!

Mae dy angen di yn awr,

Fel erioed o’r blaen hyd heno.

Os byddi’n dal fi tan y wawr,

Dalia di hyd yn oed yn dynnach.

All dim byd yn ein cadw ni lawr,

Fe wnawn ni bopeth yn gywir yma.

Pan ynghyd gyrrhaeddon ddiwedd y byd;

A’th gariad di fel cysgod arna i o hyd!

Heb syniad beth i’w ’neud, aeth sicrwydd yn ddeilchion!

O fewn casgen bowdwr gwn, rydyn ni’n taflu gwreichion…

Mae d’angen di yn waeth fyth!

Heno fydd ddechrau’r am byth …

Heno fydd ddechrau’r am byth.

Un tro, ers talwm, cwympo mewn cariad wnawn i,

Nawr dim ond cwympo ar wahân.

’Sdim byd alla i wneud;

Mae diffyg llwyr ar fy nghalon.

Un tro roedd gen i fywyd heulog yr haf,

Nawr mae cariad dywyll Nos Galan.

’Sdim byd alla i ddweud;

Mewn diffyg llwyr ar y galon!

Mewn diffyg llwyr ar y galon!

(Tro, lygaid llachar)

(Tro, lygaid llachar)

(Tro yn ôl)!

Bob hyn a hyn, fe wn

Nad ti fydd byth

Y bachgen oeddet ti am ei fod.

(Tro yn ôl)!

Ond bob hyn a hyn, fe wn i

Taw ti fydd yr unig un

I fy eisiau i fel rydw i o hyd!

(Tro yn ôl)!

Bob hyn a hyn, fe wn

Fod neb yn y bydysawd sydd

Mor hudol a rhyfeddol â ti.

(Tro yn ôl)!

Bob hyn a hyn, fe wn

Nad oes dim unrhyw rwystr

Rhag gwneud popeth yn fy ngallu i ti…

(Tro, lygaid llachar)!

Bob hyn a hyn,

Rwy’n cwympo ar chwal!

(Tro, lygaid llachar)!

Bob hyn a hyn,

Rwy’n cwympo ar chwal!

Mae dy angen di yn awr,

Fel erioed o’r blaen hyd heno.

Os byddi’n dal fi tan y wawr,

Dalia di hyd yn oed yn dynnach.

All dim byd yn ein cadw ni lawr,

Fe wnawn ni bopeth yn gywir yno.

Pan ynghyd gyrrhaeddon ddiwedd y byd;

A’th gariad di fel cysgod arna i o hyd!

Heb syniad beth i’w ’neud, aeth sicrwydd yn ddeilchion!

O fewn casgen bowdwr gwn, rydyn ni’n taflu gwreichion…

Mae d’angen di yn waeth fyth!

Heno fydd ddechrau’r am byth …

Heno fydd ddechrau’r am byth.

Un tro, ers talwm, cwympo mewn cariad wnawn i,

Nawr dim ond cwympo ar wahân.

’Sdim byd alla i wneud;

Mae diffyg llwyr ar fy nghalon.

Un tro roedd gen i fywyd heulog yr haf,

Nawr mae cariad dywyll Nos Galan.

’Sdim byd alla i ddweud;

Mewn diffyg llwyr ar y galon!

Mewn diffyg llwyr ar y galon!

Mewn diffyg llwyr ar y galon!

Mewn diffyg llwyr ar y galon!

(Tro, lygaid llachar)

(Tro, lygaid llachar)

  • Artist:Bonnie Tyler
  • Album:Faster Than the Speed of Night (1983)
Bonnie Tyler more
  • country:United Kingdom
  • Languages:English, French
  • Genre:Country music, Pop-Rock, Rock
  • Official site:https://www.bonnietyler.com/
  • Wiki:https://en.wikipedia.org/wiki/Bonnie_Tyler
Bonnie Tyler Lyrics more
Bonnie Tyler Featuring Lyrics more
Bonnie Tyler Also Performed Pyrics more
Excellent Songs recommendation
Popular Songs
Artists
Songs