Y Ddau Farch lyrics
Songs
2024-12-28 11:30:05
Y Ddau Farch lyrics
Pan oeddwn ar foreddydd
Yn rhodio ma’s o’m cufydd,
Cyfarfod wneuthum â dau farch
Yn ymgom ar y mynydd
Dywedai y cel gwannaf
Nawr wrth y ceffyl cryfaf —
“Fe fum i undydd yn fy mharch
Yn gystal march â thitha.
“Pan es yn hen glunhercyn
Ces gario ŷd i’r felin,
A beth ddigwyddodd i fy rhan
Ond gogred gwan o eisin.
“Tynasant fy mhedole,
Gyrasant fi i’r mynydde,
A thra bo anadl yn fy ffroen
Ni ddeuaf byth tuag adre.”
- Artist:Helavisa