Gwêl yr Adeilad [English translation]

Songs   2024-12-25 17:31:41

Gwêl yr Adeilad [English translation]

Mae'r durtur bêr yn canu

A'r byd yn gorfoleddu

Mewn gwir fyw lwyddiant,

A choed y maes sydd eto

Oll fel yn curo dwylo

Mewn clod a moliant.

Ca'r gwyn

A gwridog fawl am hyn,

Llu'r nef a'u moliant

A'r llawr cydganant.

Hwy'n un enynnant,

Pob un a'i dant yn dyn

A'u tanllyd anthem iddo,

Nes deffro bro a bryn.

Mewn pryd

Iachawdwr mawr y byd

Ddaeth ar ei orsedd

I roi trugaredd

I blant y llygredd

Fu ’mhwll eu camwedd cyd.

‘Teyrnasa dirion Iesu!’

Yw gwaedd ei deulu i gyd.

Sille Ilves more
  • country:Estonia
  • Languages:Estonian, Votic, Welsh
  • Genre:Folk
  • Official site:https://silleilves.bandcamp.com/
  • Wiki:https://www.youtube.com/channel/UCBgXZwsFqNn8Fvt5P71jUaw
Sille Ilves Lyrics more
Sille Ilves Featuring Lyrics more
Sille Ilves Also Performed Pyrics more
Excellent Songs recommendation
Popular Songs
Artists
Songs